Welsh youth consultation on suicide & help seeking behaviours Cymraeg)
Nod Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol Mind Cymru yw helpu i leihau’r gyfradd hunanladdiadau yng Nghymru, a hyrwyddo iechyd meddwl trwy wella’r ymateb proffesiynol a chyhoeddus i’r gofid meddwl difrifol a brofir gan bobl sy’n ystyried hunanladdiad. Mae’r prosiect, a noddir gan raglen Materion Iechyd Meddwl Cronfa’r Loteri Fawr, yn cysylltu â sectorau gwirfoddol a statudol yn ogystal â’r gymuned ehangach er mwyn codi ymwybyddiaeth o hunanladdiad, mynd i’r afael â gwarth ac ychwanegu at y syniad mai mater i bawb yw hunanladdiad.
Mae a wnelo Dewisiadau Cadarnhaol â mwy nag atal hunanladdiad: ni fydd llawer o’r rhai sy’n teimlo felly’n mynd ymlaen i roi cynnig ar hunanladdiad, ond mae meddyliau o’r fath yn arwain at ofid emosiynol a meddyliol difrifol. Mae’r Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol yn amcangyfrif bod 3.4 y cant o’r boblogaeth yn meddwl am hunanladdiad bob blwyddyn – mae’r Samariaid yn cynnig amcangyfrif uwch o 5 y cant. Mae hyn yn golygu bod rhwng 100,000–150,000 o bobl yng Nghymru’n meddwl am hunanladdiad. Mae’r cynllun gweithredu Cymreig i atal hunanladdiad Siarad â fi: Cynllun gweithredu cenedlaethol i leihau hunanladdiad a hunanniwed yng Nghymru 2009–2014 (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2009), yn rhoi pwyslais ar ymyrryd yn gynnar ac ar y rôl y dylai gwasanaethau rheng flaen ei chwarae i ymateb i unigolion sydd mewn angen, wrth iddynt ofyn am help.
» Download publication
Tweet



