Hyfforddiant a Digwyddiadau i ddod
Mae Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol Mind Cymru yn falch o gyhoeddi’r cyfleoedd hyfforddi canlynol yng Nghymru:
Mae Managing Suicide Interventions (MSI) yn gymhwyster newydd Lefel 4 (6 credyd), a ddatblygwyd gan Mind Cymru gyda chymorth gan y Cyngor Gofal ac Asiantaeth Genedlaethol Arwain ac Arloesi mewn Gofal Iechyd. Mae’r rhaglen hyfforddi hon yn cael ei achredu ar y QALL (Dysgu Gydol Oes gyda Sicrwydd Ansawdd) ac yn cael ei chefnogi gan y Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth.
Mae MSI yn cael ei anelu at unigolion mewn ystod eang o sefyllfaoedd sy’n ceisio cydnabyddiaeth broffesiynol o sgiliau ymyrryd mewn hunanladdiad. Mae’n defnyddio dulliau chwarae rôl, arsylwi, adolygiadau gan gymheiriaid a dyddiaduron myfyrio i ehangu a dyfnhau’r dysgu i gyfranogwyr sydd eisoes wedi mynychu ASIST.
Y dyddiadau nesaf yw:
• 4 & 25 Hydref, Caerdydd
• 4 & 25 Tachwedd, Sir Ddinbych
• 8 & 24 Tachwedd, Pen-y-Bont ar Ogwr
• 2 & 19 Rhagfyr, Aberystwyth
• 19 Ionawr & 2 Chwefror 2012, Caerdydd
• 23 Chwefror a 8 Mawrth, Caerdydd
Cost arferol: £285 y person– Cynnig Cynnar: arbed 40%!
Archebwch cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd ar Hydref 10fed am £171 y person yn unig
Os hoffech i MSI gael ei gynnal yn fewnol cysylltwch â positivechoices@mind.org.uk a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion.
Mae Applied Suicide Intervention Skills Training (ASIST) yn cynnig hyfforddiant ymarferol i weithwyr rheng flaen ac aelodau o’r gymuned i’w galluogi i ganfod arwyddion fod rhywun mewn perygl o gyflawni hunanladdiad a rhoi’r sgiliau a’r hyder iddynt i ymyrryd. Mae’r cwrs dau ddiwrnod hwn yn llinyn canolog yn strategaeth lleihau achosion o hunanladdiad Llywodraeth Cymru ac mae ar gael ledled Cymru.
Y dyddiadau nesaf ar gyfer ASIST yw:
Gogledd Cymru:
• 24 & 25 Hydref, Pwllheli
• 31 Hydref a 1 Tachwedd, Wrecsam
• 17 & 18 Tachwedd, Ruthun
• 8 a 9 Rhagfyr, Y Rhyl
• 12 a 13 Rhagfyr, Ynys Môn
Canolbarth Cymru:
• 28 a 29 Medi, Birmingham
• 18 a 19 Hydref, Llanelli
• 23 a 24 Tachwedd, Aberystwyth
De Cymru:
• 2 a 3 Tachwedd, Merthyr
• 12 a 13 Rhagfyr, i’w gadarnhau
• 18 a 19 Ionawr 2012, i’w gadarnhau
Cost arferol: £185 y person – Cynnig Cynnar: archebwch 2 le a chael 1 am ddim ac arbed un rhan o dair
Archebwch 2 le ar unrhyw gwrs ASIST cyn Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd (10fed Hydref) a dewch â chydweithiwr gyda chi yn rhad ac am ddim
Os hoffech inni gynnal ASIST yn fewnol cysylltwch â positivechoices@mind.org.uk a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion.
Cwrs hanner diwrnod yw Tune Up wedi ei gynllunio ar gyfer pobl sydd eisoes wedi dilyn cwrs ASIST ac sy’n dymuno adolygu’r model ymyrryd mewn hunanladdiad ac adnewyddu eu sgiliau.
Y Dyddiadau nesaf yw:
• 27 Hydref, Cwmbrân
• 7 Chwefror 2012, Castell Nedd Port Talbot
• 20 Mawrth, Y Drenewydd
• 18 Ebrill, Sir Gaerfyrddin
Cost: £54 y person
Os hoffech i TuneUp gael ei gynnal yn fewnol cysylltwch â positivechoices@mind.org.uk a byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich anghenion.
Gellir darganfod rhagor o fanylion am ein holl gyrsiau hyfforddi ar ein gwefan.
Digyflog? Gwirfoddolwr? Mae cymorthdaliadau ar gael i dalu am gostau hyfforddi – cysylltwch ag aelod o’r tîm Dewisiadau Cadarnhaol i gael rhagor o wybodaeth.
Dymuniadau gorau,
Alan, Nicole, Ceri, Julie a Maggie – tîm Dewisiadau Cadarnhaol
Tweet



