Partneriaid
Canolfannau Rhanbarthol
Mae’r Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol yn bartneriaeth rhwng Mind Cymru a thair cymdeithas Mind leol: Mind Aberystwyth, Mind Torfaen a Mind Dyffryn Clwyd, sy’n gweithredu fel Canolfannau Rhanbarthol. Mae pob cymdeithas Mind leol yn elusen annibynnol a redir gan bobl leol, i bobl leol. Mae pob un yn gyfrifol am ei chyllid ei hun ac am y gwasanaethau y mae’n eu darparu, ond mae pob un yn aelod cyswllt o Mind. Mae’r aelodaeth gyswllt yma’n sicrhau bod pob cymdeithas leol yn cyrraedd safonau trefn lywodraethol a darpariaeth gwasanaethau Mind, a’u bod yn cydweithio i hyrwyddo cenhadaeth Mind.
Mae’r Canolfannau Rhanbarthol yn defnyddio’u gwybodaeth a’u rhwydweithiau lleol i ddarparu hyfforddiant a rhaglenni estyn allan. Mae pob Canolfan Ranbarthol hefyd yn cymryd rhan mewn casglu a monitro data i werthuso’r Prosiect.
Mind Aberystwyth
Canolfan Iechyd a Lles yw Mind Aberystwyth. Mae’n darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i unigolion sy’n profi effeithiau gofid meddwl, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chynhalwyr. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys caffi anffurfiol sy’n darparu bwyd iach a lle i dderbyn hyfforddiant ac addysg; sesiynau therapiwtig megis celf, cerdded, ioga, nofio; sawl grŵp addysgol a chefnogol megis y grŵp bwyta iach a grŵp cymorth i fenywod; gwasanaeth arbennig Rhoi’r Gorau i Smygu, ac mae’n gartref i sawl sefydliad a gwasanaeth partner megis eiriol, cwnsela ar alcohol a chwnselwyr y Tîm Iechyd Meddwl Sylfaenol. Mae Mind Aberystwyth hefyd yn darparu hyfforddiant, sef ASIST, Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl lefel 2.
Tel 01970 626225
Mind Torfaen
Nod Mind Torfaen yw cynorthwyo a hysbysu pobl yn y gymuned sy’n cael problemau iechyd meddwl, neu sydd efallai â pherthnasau, cynhalwyr neu ffrindiau sy’n profi gofid meddwl. Mae’r gwasanaethau a ddarperir yn cynnwys: Cyngor a gwybodaeth, Cwnsela, Gweithgareddau Dydd, Gwasaan3eth Galw i Mewn, Tai lle Ceir Cefnogaeth, Cymorth gyda Thenantiaethau, Gwasanaethau a Hyfforddiant Estyn Allan.
Cyswllt Berni Davies:
Tel 01495 768833
bernie.davies@torfaenmind.co.uk
Mind Dyffryn Clwyd
Nod Mind Dyffryn Clwyd yw gwarchod hawliau a chynrychioli buddiannau defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl, eu teuluoedd a’u cynhalwyr; gwella gwybodaeth y cyhoedd, gan greu gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o faterion iechyd meddwl; a darparu llety gyda chymorth a chynnig cyfleoedd cymdeithasol, addysgol, hyfforddiant a chyflogaeth i bobl sy'n profi problemau iechyd meddwl. Gwna hyn trwy ddarparu ystod o wasanaethau gan gynnwys tai lle ceir cefnogaeth i bobl sydd â phroblemau iechyd meddwl difrifol; Gwasanaeth Estyn Allan Gwledig sy’n darparu grwpiau cefnogi; mentrau datblygu yn y gymuned, cynllun hyffordd ia stafell de, gwasanaethau estyn allan teithiol, therapïau cyfannol, sgyrsiau a hyfforddiant gan gynnwys ASIST a Chymorth Cyntaf Iechyd Meddwl; Cyfleoedd Cymdeithasol/Cyfranogiad gan Ddefnyddwyr i roi cyfle i bobl sy’n profi problemau iechyd meddwl hirbarhaol gyfle i feithrin eu hyder a’u sgiliau cymdeithasol; mae’r fenter Cyflogaeth, Hyfforddiant a Gwirfoddoli, Sparks Enterprise, yn galluogi pobl i dyfu mewn hunanhyder a hunan-barch trwy wybod bod eu sgiliau’n angenrheidiol a gwerthfawr.
Tel 01745 336787
Lechyd Cyhoeddus Cymru
Mae gan Iechyd Cyhoeddus Cymru rôl allweddol yn y prosiect trwy ein cynorthwyo i fonitro a gwerthuso a hwyluso cysylltiadau rhwng Dewisiadau Cadarnhaol a phrosiectau ymchwil.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n darparu’r adnoddau, y wybodaeth a’r cyngor i alluogi Llywodraeth Cynulliad Cymru, Comisiwn Iechyd Cymru, Byrddau Iechyd Lleol, Awdurdodau Lleol ac Ymddiriedolaethau GIG i gyflawni eu swyddogaethau statudol ran iechyd cyhoeddus.
I wneud hyn, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru’n darparu ystod lawn o wasanaethau iechyd cyhoeddus, gan geisio:
-
Gwella iechyd a lles pobl Cymru a lleihau iechyd anghyfartal;
-
Diogelu pobl rhag clefydau a bygythiadau i’w hiechyd yn awr ac yn y dyfodol;
-
Cyfrannu tuag at wella gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi chwarae rhan amlwg o ran cynorthwyo Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cenedlaethol i Atal Hunanladdiad, ac mae wedi cydweithio â Mind Cymru ar y prosiect peilot ASIST.



