Newyddion a digwyddiadau
Mind Cymru’n mynychu Parti Haf Her Elusennau LlCC
20 Gorffennaf 2010: Fel un o’r tair elusen a ddewiswyd eleni gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, gwahoddwyd Mind Cymru i fynychu parti Haf, a gynhaliwyd ar 8 Gorffennaf 2010 yn yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd dan ofal y Fons Gillian Morgan, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Roedd y parti’n gyfle i arddangos doniau rhai o’r bobl sy’n gweithio i LlCC a thynnu sylw at waith yr elusennau a ddewiswyd, i godi arian iddynt ac i ddiolch i staff LlCC sydd wedi gweithio’n galed eleni i godi arian sylweddol ar gyfer Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol Mind.
Mae’n amlwg bod Mind Cymru a iechyd meddwl yn bwysig i staff Llywodraeth Cynulliad Cymru, a ddywedodd bethau fel, “Mae iechyd meddwl mor bwysig yng Nghymru”, ac “Rwy’n meddwl bod iechyd meddwl yn wirioneddol bwysig oherwydd mae gen i aelod o’r teulu (neu ffrind) sydd â phroblemau iechyd meddwl".
LlCC yn lansio cynllun i leihau hunanladdiad a hunan-niwed
2 Tachwedd 2009: Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru newydd lansio Beth am Siarad â Fi? ', sef cynllun gweithredu cenedlaethol i leihau hunanladdiad a hunan-niwed yng Nghymru. Mae’n bosibl gweld copi o’r cynllun yma.
Samariaid yn penodi cyfarwyddwr newydd yng Nghymru
10 Medi 2009: Penodwyd Simon Hatch yn ddiweddar fel Cyfarwyddwr cyntaf y S amariaid yng Nghymru. Rhan fawr o’i waith fydd cefnogi darpariaeth rhaglenni i leihau hunanladdiad ledled y wlad.
Os hoffech chi rannu newyddion neu ddigwyddiadau, neu roi gwybod inni am ddolen doredig, anfonwch y wybodaeth ar positivechoices@mind.org.uk.



