ASIST
(Hyfforddiant Uwch Sgiliau mewn Ymyrraeth Hunanladdiad)
Y gweithdy
Gweithdy 2 ddiwrnod yw Hyfforddiant Uwch Sgiliau mewn Ymyrraeth Hunanladdiad sy’n cynnig hyfforddiant dwys i weithwyr rheng flaen ac aelodau o’r gymuned. Mae’r pwyslais ar ddysgu cymorth cyntaf hunanladdiad er nwyn helpu rhywun dan risg i fod yn ddiogel a cheisio help pellach os oes angen. Mae ASIST yn darparu hyfforddiant ymarferol i gynhalwyr sydd am atal risg hunanladdiad yn y tymor byr.
Hyfforddwyr
Mae gennym dîm cenedlaethol o hyfforddwyr tra phrofiadol. Mae pob rhaglen yn cael ei monitro’n drylwyr er mwyn sicrhau bod safonau’r hyfforddiant mor uchel â phosibl. Mae’r adborth gan rai sydd wedi cymryd rhan wedi bod yn ffafriol dros ben - gyda thros 90% yn sôn am gynnydd sylweddol yn eu hyder o ganlyniad i’r hyfforddiant a ddilynwyd.
Mae pobl sy’n cymryd rhan yn aml yn cynnwys:
- pobl sy’n pryderu am deulu a ffrindiau
- rhai sy’n helpu a chynghori’n naturiol
- gweithwyr gwasanaethau brys
- cynghorwyr, athrawon a gweinidogion
- ymarferwyr iechyd meddwl
- gweithwyr mewn iechyd, lles a chyfiawnder
- gwirfoddolwyr cymunedol.
Gan weithio’n bennaf mewn grwpiau bychain sy’n cynnwys un hyfforddwr/wraig a dim mwy o 15 o raid yn derbyn hyfforddiant, mae ASIST yn defnyddio llawer o wahanol brosesau dysgu i greu profiad dysgu rhyngweithiol ar sail ymarfer.
Dysgwch y canlynol:
- adnabod gwahoddiadau am help
- estyn allan a chynnig cefnogaeth
- arolygu risg hunanladdiad
- defnyddio model ymyriad mewn hunanladdiad
- cysylltu pobl ag adnabod yn y gymuned.
Barn pobl am ein gweithdai ASIST
- ‘Strwythur ymarferol a chefnogol iawn.'
- 'Cymorth cyntaf pwysig iawn i’w gael yn bersonol ac yn broffesiynol.'
- 'Roedd y cyflwyniad yn broffesiynol ac yn cael ei drafod yn sensitif. Hynod o drylwyr a llawn gwybodaeth.'
- ‘gweithdy wedi’i gyflwyno’n dda a llawer o feddwl wedi mynd iddo.'
Sut mae dilyn y cwrs?
Mind Cymru a’n partneriaeth ym Mhrosiect Dewisiadau cadarnhau a noddir gan Gronfa’r Loteri Fawr yn unig sy’n gyfrifol am ddarparu’r rhaglen ASIST yng Nghymru.
- Ewch i weld ein gweithdai a lleoliadau diweddaraf
Faint yw’r gost a faint yw’r ffi?
Cost gweithdy dau ddiwrnod yw £185 y pen. Y ffi ostyngol (i rai digyflog) yw £50. Gallwch dalu trwy siec neu ofyn am anfoneb wrth gadw lle.
Mae eich ffi’n cynnwys:
- llyfr/deunyddiau hyfforddiant
- Llawlyfr Ymyrraeth Hunanladdiad
- lluniaeth a chinio bob dydd
- tystysgrif presenoldeb
Mae’r cwrs ASIST yn rhedeg am ddau ddiwrnod a bydd fel arfer yn cychwyn yn brydlon am 9.00am ac yn dod i ben am 5.00pm ar y ddau ddiwrnod. Oherwydd natur y cwrs mae’n hanfodol ichi allu mynychu am yr oriau llawn bob dydd. Os cyrhaeddwch chi’n hwyr ar unrhyw ddiwrnod nei os oes rhaid ichi adael yn gynnar mae’n bosibl y bydd yn rhaid ichi ddilyn y cwrs eto i ennill eich tystysgrif.
Sylwer:
Oherwydd natur emosiynol yr hyfforddiant hwn nid argymhellir y cwrs hwn i rai sydd wedi cael profedigaeth yn ddiweddar.



