Angen Help? Spacer content image

Hyfforddiant

 

 

Mae Mind Cymru’n darparu hyfforddiant ar draws Cymru i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad.  Ein nod yw gwella gwybodaeth, sgiliau a hyder, tra’n herio’r gwarth a all atal pobl rhag ceisio help. 

 

Mae’r fframwaith hyfforddiant atal hunanladdiad Dewisiadau Cadarnhaol yn rhan allweddol o Gynllun Gweithredu Llywodraeth Cynulliad Cymru i Leihau Hunanladdiad a Hunan-niwed.  Mae pob rhaglen yn cynnig dull empathig sy’n rhoi sylw i’r unigolyn ar sail ymddiriedaeth a chyfathrebu da.  


Craidd y prosiect yw rhaglen hyfforddi lwyddiannus sy’n ceisio gwella’r dulliau a ddefnyddir gan weithwyr proffesiynol mewn iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau brys i gefnogi pobl sy’n wynebu risg hunanladdiad. 

 

Ein nod yw hyfforddi 13000 o bobl mewn Hyfforddiant Uwch Sgiliau mewn Ymyrraeth Hunanladdiad erbyn 2014.  Model hyfforddi llwyddiannus a sefydledig yw hwn a ddatblygwyd yn barhaus dros 25 o flynyddoedd ac a ddefnyddir ledled y byd i hyfforddi gweithwyr proffesiynol ac aelodau o gymunedau fel ei gilydd mewn atal hunanladdiad.  

 

Mae ASIST yn galluogi gweithwyr rheng flaen ac unigolion â’r sgiliau a’r hyder i ymyrryd.  Anelir hwn nid yn unig at weithwyr iechyd neu weithwyr proffesiynol, ond at bawb sy’n helpu eraill ac sydd mewn lle da i weithredu fel ‘porthorion’ i adnabod pwy sydd ag angen help i fod yn ddiogel.  Ffocws y gweithdy yw diogelwch yn y tymor byr, nid datrys problemau na cheisio cynnig ymyriadau therapiwtig.  Gall unrhyw un ddysgu’r sgiliau a ddysgir gennym - mae ASIST yn Gymorth Cyntaf mewn Hunanladdiad.  

 

Heddiw, mae hyfforddi pobl mewn cymorth cyntaf yn angen cydnabyddedig - rydym yn ei gymryd yn ganiataol.  Ond eto, o safbwynt ystadegol, rydym yn fwy tebygol o gwrdd â rhywun sy’n meddwl am hunanladdiad nag â rhywun sy’n cael trawiad ar y galon.

 

 

 

Mae pob hyfforddiant a gynigir gan y prosiect Dewisiadau cadarnhaol yn cael ei werthuso er mwyn cael gwybod am ei effaith gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.  Cynhelir y gwerthusiad hwn yn ôl y pedair lefel sydd yn y model Kirkpatrick.  Bydd arolygon wedi hynny’n mesur yr effaith ar arfer ac ymddygiad.

 

 

 

 

 

 

Yn ôl i'r brig

 

Spacer
kamagra oral jelly uk