Amdanom ni
Arweinir y Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol gan Mind Cymru, sy’n gweithio mewn partneriaeth â thair Canolfan Ranbarthol, Mind Dyffryn Clwyd, Mind Aberystwyth a Mind Torfaen, y Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Mind Cymru
Mind Cymru yw’r corff sy’n gweithio dros newid i Mind yng Nghymru. Ategir popeth a wnawn gan bobl sydd â phrofiad uniongyrchol o ofid emosiynol ac ryym yn ymgyrchu’n egniol i greu cymdeithas sydd o blaid iechyd meddwl da ac sy’n herio gwarth mewn perthynas ag iechyd meddwl. Nid yw Mind Cymru’n darparu unrhyw wasanaethau iechyd meddwl uniongyrchol i’r cyhoedd. Darperir y rhain gan dros 20 o gymdeithasau Mind lleol yng Nghymru sy’n cynnig gwasanaethau i bobl sy’n profi pob math o ofid meddwl. Mae Mind Cymru’n cefnogi cymdeithasau Mind lleol i redeg o ddydd i ddydd gan gynnwys materion megis cyllid, safonau ansawdd, arfer da ac effeithiolrwydd sefydliadol. Rydym yn cydweithio’n agos â Llywodraeth Cynulliad Cymru ac asiantaethau gwirfoddol a statudol eraill i ddatblygu iechyd meddwl, gofal yn y gymuned a pholisi cysylltiedig yng Nghymru fel bod polisi’n ateb anghenion pobl Cymru.
Staff y Prosiect
Alan Briscoe yw Rheolwr y Prosiect Dewisiadau cadarnhaol ac mae ei swyddfa ym Machynlleth. Penodwyd Alan gan Mind Cymru ym mis Tachwedd 2007 fel Rheolwr y Prosiect i weithredu’r cynllun peilot ASIST. Prosiect a ariennir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru yw hwn a gwnaed cais llwyddiannus i gronfa’r Loteri Fawr am y Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol dros gyfnod o bum mlynedd. Cynrychiolodd Alan Mind Cymru ar y Gr?p Goruchwylio Cenedlaethol trwy gydol camau datblygu ac ymgynghori’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Lleihau Hunanladdiad a Hunan-niwed Cenedlaethol. Alan oedd un o’r hyfforddwyr ASIST cyntaf yng Nghymru, ac erbyn hyn mae’n Hyfforddwr Ymgynghorol LivingWorks cofrestredig.
Mae Alan yn frwd dros atal hunanladdiad. Mae wedi gweithio i wasanaethau statudol a gwirfoddol ym maes cyfiawnder ieuenctid a chamddefnyddio sylweddau ac mae wedi bod yn dyst i effaith hunanladdiad ar unigolion ac ar gymunedau nifer mawr o weithiau.
Nicole Burchett yw’r Swyddog Prosiect ac mae wedi ei lleoli yn Mind Cymru yng Nghaerdydd.
Ceri Taylor yw Gweinyddydd Rhanbarthol De Ddwyrain Cymru ac mae ei swyddfa yn Mind Torfaen.
Julie Pierce yw Gweinyddydd Rhanbarthol Gogledd Cymru ac mae ei swyddfa yn Mind Dyffryn Clwyd.
Maggie Cooper yw Gweinyddydd Canolbarth a De Orllewin Cymru ac mae ei swyddfa yn Mind Aberystwyth.
Canolfannau Rhanbarthol
Ein partneriaid yn y prosiect hwn yw tair Cymdeithas Leol Mind, Mind Dyffryn Clwyd, Mind Torfaen a Mind Aberystwyth, ac maent yn gweithredu fel Canolfannau Rhanbarthol i ledaenu’r rhaglenni hyfforddiant ac estyn allan.
Hyfforddwyr
Mae’r Prosiect Dewisiadau Cadarnhaol yn ymgorffori rhwydwaith o hyfforddwyr sgilgar dros ben o wahanol gefndiroedd yn y sectorau gwirfoddol a statudol, gan gynnwys cyfiawnder troseddol, gwaith ieuenctid, tai, nyrsio, iechyd meddwl a chwnsela.



