Yr her
Bob blwyddyn yng Nghymru mae tua dwywaith nifer y bobl yn marw
trwy hunanladdiad ag sy’n marw mewn damweiniau ffordd. Am bobl
hunanladdiad, gall fod hyd at 100 eto a anafir gan ymddygiad
hunanladdiad nad yw’n llwyddo. Hunanladdiad yw prif achos marw ymhlith
pobl ifanc sy’n byw yng Nghymru. Ond dim ond dechrau’r broblem yw hyn:
Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod 5% o’r boblogaeth yn meddwl o ddifrif am hunanladdiad. (Samariaid)
Eleni
bydd hyd at 150,000 o bobl yng Nghymru’n meddwl am hunanladdiad. Ni
fydd llawer o’r rhain yn mynd ymlaen i roi cynnig ar hunanladdiad, ond
mae meddwl am hunanladdiad yn arwain at ofid emosiynol a meddyliol
dwys.
Y Cyfle
Mae’r rhan fwyaf o bobl sy’n ystyried hunanladdiad yn rhannu eu gofid a’u bwriad. Gall hyfforddiant ein helpu i weld y gwahoddiadau hyn i helpu ac ymateb iddynt. Gall eich gwneud yn ddigon hyderus i holi am hunanladdiad os ydych yn pryderu am ddiogelwch rhywun. Gall roi'r offer ichi i osgoi risg hunanladdiad yn y lle cyntaf.
Mae’r Cynllun Gweithredu Cenedlaethol Lleihau Hunanladdiad a Hunan-niwed i Gymru
yn pwysleisio pwysigrwydd ymyriad cynnar, a’r rhan y dylai gwasanaethau
rheng flaen ei chwarae o ran ymateb i bobl sydd mewn angen wrth iddynt
ofyn am help. Mae’r ymateb cynnar hwn o help i leihau unigedd y sawl
sy’n wynebu risg, mae’n lleddfu gofid ac mae’n gwella’r cyfle i
wasanaethau gydweithio’n effeithiol i gynorthwyo’r unigolyn.
Egwyddorion gweithredu effeithiol
Sylfaen y cynllun gweithredu yw’r angen i newid ymddygiad y cyhoedd a’r asiantaethau sy’n gyfrifol am gysylltu mewn ffordd gadarnhaol â’r cyhoedd. Mae’n tynnu sylw at yr angen i godi ymwybyddiaeth o hunanladdiad a hunan-niwed; darparu hyfforddiant i’r asiantaethau hynny sy’n gweithio gyda’r cyhoedd a gwella’r ymateb i unigolion sydd mewn gofid wrth i’r gofid hwnnw gael ei adnabod.
Ystyr ymyriad cynnar yw bod gwasanaethau’n ymateb i
anghenion unigolion wrth iddynt ofyn am help. Mae’r ymateb cynnar hwn o
help i leihau unigedd y sawl sy’n wynebu risg, mae’n lleddfu gofid ac
mae’n gwella’r cyfle i wasanaethau gydweithio’n effeithiol i
gynorthwyo’r unigolyn. Er bod cyfeiriad at wasanaethau iechyd meddwl yn
aml yn rhan annatod o’r ymateb hwn, fel arfer bydd ar bobl sy’n meddwl
am hunanladdiad angen ystod o ymyriadau, gan gynnwys help gyda materion
sy’n ymwneud â thai, dyled, defnyddio alcohol/cyffuriau ayb a chymorth
gan deulu, ffrindiau a grwpiau yn y gymuned. Fel arfer y gwasanaeth lle
mae rhywun wedi gofyn am help yn y lle cyntaf yw’r man gorau i’w helpu i
gael hyd i’r help a’r cymorth hwn.
Gall agweddau meddwl megis gwarth, ofn a phesimistiaeth
fod yn rhwystrau, gan wneud i rai feddwl mai rhywbeth i arbenigwyr mewn
iechyd meddwl yn unig yw hunanladdiad, a gall hyn arwain at ddiffyg
gweithredu gan wasanaethau rheng flaen a’r cyhoedd. Cyhyd ag y bydd pobl
yn meddwl am hunanladdiad fel rhywbeth neilltuol i wasanaethau iechyd
meddwl arbenigol, collir cyfleoedd i ymyrryd. Er nad yw ond 25% o rai
sy’n marw trwy hunanladdiad yn hysbys i wasanaethau iechyd meddwl
arbenigol, bydd y rhan fwyaf o’r 75% sydd weddill mewn cysylltiad â
gwasanaethau rheng flaen.
"Oes modd helpu hwn neu hon i fod yn ddiogel?"
Ceir tystiolaeth bod hyd yn oed pobl sydd â meddyliau dwys iawn am hunanladdiad yn rhwng dau feddwl yngl?n â marw ond eu bod mewn cymaint o ofid nes eu bod yn methu meddwl am ddewis arall heblaw marw; trwy roi cyfle iddynt siarad, gellir lleihau’r gofid hwn i’r fath raddau nes eu bod am aros yn ddiogel a gwella eu gallu i dderbyn y cymorth sydd ar gael. Mae’r posibilrwydd y bydd rhywun sy’n meddwl am hunanladdiad yn dod o hyd i rywun i wrando a lleddfu’r gofid yn well os oes pobl hyfforddedig yn y gymuned sy’n barod i ymyrryd ac sy’n gwybod sut i wneud hynny.



