Dolenni
I weld rhestr o linellau cymorth brys, cliciwch yma.
Sefydliadau ac Adnoddau yng Nghymru a’r DU:
Comisiynydd Plant Cymru Keith Towler yw Comisiynydd Plant Cymru. Gwaith Keith yw siarad dros blant a phobl ifanc. Mae’n ceisio sicrhau bod plant a phobl ifanc yn ddiogel ac yn gwybod am eu hawliau. Dyma’r ddolen i’r safle Cymraeg.
Mae Choose Life yn cynnig strategaeth a chynllun gweithredu cenedlaethol i atal hunanladdiad yn yr Alban.offers a national strategy and action plan to prevent suicide in Scotland.
Gwaith Gofal Profedigaeth Cruse yw gofalu am les pobl yn sgil profedigaeth i’w galluogi i ddeall eu galar a dygymod â’u colled.
Rhwydwaith o grwpiau gwirfoddol o gefndiroedd amaethyddol, gwledig ac eglwysig yw’r Farm Crisis Network. Gall gwirfoddolwyr y Rhwydwaith ‘gydgerdded’ ag amaethwyr a’u teuluoedd wrth iddynt geisio datrys eu problemau, beth bynnag y byddont.
Elusen academaidd genedlaethol yw’r Sefydliad Iechyd Gwledig sy’n ceisio ategu, datblygu a hybu iechyd a lles pobl cefn gwlad a’u cymunedau.
Sefydliad gwirfoddol yw Cymdeithas Gwasanaethau Cymdeithasol Islamaidd Cymru sy’n darparu nifer o wasanaethau, gan gynnwys cwnsela, cyfeillachu ac eiriol i’r gymuned Foslemaidd yng Nghymru.
Elusen iechyd meddwl dan arweiniad defnyddwyr yw MDF Y Sefydliad Deubegwn Cymru sy’n ceisio galluogi pobl a effeithir gan anhwylder deubegwn (iselder manig) i reoli eu bywydau.
Sefydliad gwirfoddol yn y DU yw Papyrus sydd wedi ymrwymo i atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc a hybu iechyd meddwl a lles emosiynol.
Samariaid (gallwch ddod o hyd i’ch cangen leol yng Nghymru yma)
Mae Shelter Cymru yn darparu cyngor ar dai ac yn ymgyrchu dros wella’r sefyllfa tai yng Nghymru.
Nod Survivors of Bereavement by Suicide (SOBS cynt) yw ateb anghenion a herio unigedd rhai a gafodd brofedigaeth trwy hunanladdiad perthynas neu ffrind agos.
Prif Swyddog Meddygol Llywodraeth y Cynulliad Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn darparu cyngor a chyfarwyddyd proffesiynol annibynnol i’r Prif Weinidog ac i weinidogion eraill Llywodraeth y Cynulliad, ac i swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol ar faterion iechyd a gofal iechyd.
Mae Cyngor Ffoaduriaid Cymru yn darparu cyngor, gwybodaeth a chymorth i geiswyr lloches a ffoaduriaid yng Nghymru.
Sefydliadau ac Adnoddau Rhyngwladol:
Y Gymdeithas Ryngwladol er Atal Hunanladdiad
Mae LivingWorks yn darparu rhaglenni o bob rhan o’r byd sy’n paratoi cynorthwywyr mewn cymunedau i ymyrryd i atal hunanladdiad.
Sefydliad Iechyd y Byd – Rhaglenni a Phrosiectau Iechyd Meddwl



